![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | United Nations treaty, offeryn hawliau dynol rhyngwladol, offeryn hawliau dynol rhyngwladol craidd ![]() |
---|---|
Rhan o | Penderfyniad 2200 A gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Cyfamodau Rhyngwladol am Hawliau Dynol, Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol, cyfraith hawliau dynol rhyngwladol ![]() |
Iaith | Tsieceg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Ionawr 1967 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 16 Rhagfyr 1966 ![]() |
Mae'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) yn gytundeb amlochrog a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (GA) ar 16 Rhagfyr 1966 o fewn Cynnig 2200A (XXI), a ddaeth i rym ar 3 Ionawr 1976. Mae'n ymrwymo ei bartïon i weithio tuag at roi hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol (ESCR) i'r Tiriogaethau Anhunanlywodraethol ac Ymddiriedolaethau (Non-Self-Governing and Trust Territories) ac unigolion, gan gynnwys hawliau llafur a'r hawl i iechyd, yr hawl i addysg, a'r hawl i safon byw ddigonol. Yng Ngorffennaf 2020, roedd gan y Cyfamod 171 o bartïon.[1] Mae pedair gwlad arall, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, wedi arwyddo'r Cyfamod ond heb ei gadarnhau.
Mae'r ICESCR (a'i Brotocol Dewisol) yn rhan o'r Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol, ynghyd â'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) a'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR), gan gynnwys y Protocolau Dewisol cyntaf ac ail.[2]
Mae'r Cyfamod yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.[3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search